1
Our place in space computer-generated illustration

Our Place in Space

Ebrill - Hydref 2022

Mae Our Place in Space yn daith ryfeddol drwy galaeth - llwybr cerfluniau epig 8.5km o hyd sy’n archwilio beth y mae’n ei olygu i fyw bywyd ar y Ddaear.

Dilynwch lwybr epig drwy galaeth ac ailystyriwch yr hyn y mae bywyd ar y Ddaear yn ei olygu

Llwybr cerfluniau 10 cilometr, ap rhyngweithiol a llu o ddigwyddiadau arbennig yn archwilio ein planed – a’r bydoedd y tu hwnt

Addas i bob oed

Mae mynediad am ddim

Pryd a ble

22 Ebrill - 22 Mai Derry-Londonderry
11 Mehefin - 10 Gorffennaf Belfast (Divis & the Black Mountain)
30 Gorffennaf - 29 Awst Caergrawnt
14 Hydref - 6 Tachwedd Lerpwl
TBC Ulster Transport Museum and North Down Coastal Path

Ni a nhw – gyda’n gilydd?

Mae Our Place in Space yn dod â’n galaeth ni i lawr i’r Ddaear – ac yn ein hanfon ni  i’r sêr i ddod o hyd i safbwyntiau newydd ar ein planed. Mae’r artist Oliver Jeffers wedi dylunio model epig o gysawd yr haul, sy’n ymddangos eleni fel llwybr cerfluniau 10 cilometr yng Ngogledd Iwerddon a Chaergrawnt. Gallwch chi ei archwilio o unrhyw le drwy ap realiti estynedig rhyngweithiol a rhaglen enfawr o ddigwyddiadau digidol a gweithgareddau dysgu, sy’n agored i bawb ac mae popeth am ddim. 

O greu seren i gysylltu â gwylwyr gofod yn Fietnam ac Irac, bydd Our Place in Space  yn sicrhau na fyddwch chi byth yn edrych ar gysawd yr haul yn yr un ffordd eto. Ymunwch â ni i archwilio’r hyn mae’n ei olygu i fyw ar y Ddaear yn 2022 - ac i ystyried sut y gallwn ni ddiogelu ein planed yn well ar gyfer y dyfodol. 

Our Place in Space yn cael ei greu gan dîm a arweinir gan y Nerve Centre, Prif ganolfan gelfyddydau cyfryngau creadigol Gogledd Iwerddon, ac mae’n cynnwys yr artistiaid Oliver Jeffers a Die Hexen, Professor Stephen Smartt oddi wrth y Astrophysics Research Centre yn Queen’s University Belfast, National Museums NI, NI Science Festival, Big Motive, Taunt, Microsoft, Jeffers & Sons, University of Cambridge, Dumbworld, Live Music Now, Little Inventors and Urban Scale Interventions. Mae’n cael ei gomisiynu gan Belfast City Council, gyda phartneriaid lleoliad gan gynnwys Derry City & Strabane District Council, the National Trust, Cambridge City Council and Ards & North Down Borough Council.